Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 22 Ionawr 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:20 - 11:18 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees (Cadeirydd) Leighton Andrews Rebecca Evans William Graham Elin Jones Darren Millar Lynne Neagle Gwyn R Price Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Karen Samuels, Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan Joanne Ferris, Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain Dr Richard Greville, Association of the British Pharmaceutical Industry |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Philippa Watkins (Ymchwilydd) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2 Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 1 - Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan
2.1. Ymatebodd Karen Samuels i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.
2.2. Nododd Ms Samuels fod yr Uned Cymorth Presgripsiynu Dadansoddol Cymru wedi bod yn monitro'r defnydd a wneir o feddyginiaethau a arfarnwyd gan AWMSG a NICE, a chytunodd i rannu'r papur yn amlinellu canlyniadau'r monitro hwnnw gyda'r Pwyllgor.
3 Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 2 - Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain
3.1. Ymatebodd y Dr Rick Greville i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.
3.2. Mewn ymateb i gwestiwn y Cadeirydd mewn perthynas â phrofiad ABPI o Raglen Mabwysiadu Technolegau Iechyd NICE, dywedodd y Dr Greville nad oedd ganddo brofiad uniongyrchol o'r broses hon, ond y gallai ofyn am ragor o wybodaeth ar ran y Pwyllgor.
3.3. Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Dr Richard Greville i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:
4 Papurau i’w nodi
4.1. Nododd y Pwyllgor y papurau.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 6 ar agenda heddiw ac o’r cyfarfod fore 30 Ionawr 2014
5.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6 Ystyried cynllun gwaith y Pwyllgor o ran yr ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig
6.1. Cytunodd y Pwyllgor i gynnal dau ymweliad allanol ar gyfer yr ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig: i Brifysgol Abertawe ac Ysbyty Treforys ar 13 Chwefror, ac i sesiwn grŵp ffocws yng Nghasnewydd ar 12 Mawrth. Cafodd yr holl wariant sy'n gysylltiedig â'r ddau ymweliad ei gytuno gan y Pwyllgor.